22 Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto.
23 Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio,“Ein duw ni, Dagon –mae wedi rhoi Samsonein gelyn, yn ein gafael!”
24 Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi ein gelyn yn ein gafael. Roedd e wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.”
25 Pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!”Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri.
26 Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.”
27 Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl ar ei ben.
28 A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!”