1 Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel.
2 Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.
3 Dyma nhw'n clywed y dyn ifanc o lwyth Lefi yn siarad pan oedden nhw wrth dŷ Micha. Roedden nhw'n nabod ei acen. Felly dyma nhw'n galw heibio a dechrau ei holi, “Sut ddest ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”
4 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi ei wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.
5 “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”
6 A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!”
7 Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.