12 Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.)
13 Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.
14 A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?”
15 Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”
16 Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref.
17 Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.
18 Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”