21 I ffwrdd â nhw gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen.
22 Yna pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau.
23 Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”
24 Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
25 Ac medden nhw wrtho, “Well i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a byddan nhw'n dod ac yn dy ladd di a dy deulu!”
26 Yna dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith.Pan sylweddolodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, dyma fe'n troi am adre.
27 Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi eu gwneud. Dyna lle roedd pobl Laish, yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. A dyma milwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw.