16 Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Roedd yn dod o fryniau Effraim yn wreiddiol, ond yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin.
17 Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?”
18 A dyma'r dyn o lwyth Lefi yn dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd i Dabernacl yr ARGLWYDD. Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw.
19 Does gynnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.”
20 “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!”
21 Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn ar ôl golchi eu traed dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd.
22 Tra roedden nhw'n mwynhau eu hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!”