2 Ond rhaid i chi beidio gwneud cytundeb heddwch gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad yma, a rhaid i chi ddinistrio'r allorau lle maen nhw'n addoli eu duwiau.’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i. Pam hynny?
3 Roeddwn i wedi'ch rhybuddio chi, ‘Os wnewch chi ddim gwrando, fydda i ddim yn gyrru'r Canaaneaid allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n fygythiad cyson, a byddwch yn cael eich denu gan eu duwiau nhw.’”
4 Pan oedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud hyn wrth bobl Israel, dyma nhw'n torri allan i grïo'n uchel.
5 Dyma nhw'n galw'r lle yn Bochîm, ac yn cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD.
6 Ar ôl i Josua adael i bobl Israel fynd, y bwriad oedd iddyn nhw i gyd feddiannu'r tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw.
7 Tra roedd Josua'n fyw roedden nhw wedi addoli'r ARGLWYDD. Ac roedden nhw wedi dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostynt eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD dros bobl Israel.
8 Ond yna dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD yn marw, yn gant a deg mlwydd oed.