12 Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin, i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?
13 Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.”Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.
14 Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.
15 Roedd dau ddeg chwech mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.
16 Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed trwch blewyn gyda carreg o ffon dafl.
17 Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.
18 Cyn y frwydr roedden nhw wedi bod yn Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?”A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”