31 A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd eto, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).
32 Roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.
33 Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
34 ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro yn filain, a doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
35 Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd dau ddeg pum mil a chant o filwyr Benjamin eu lladd.
36 Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw!Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.
37 Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar Gibea, a lladd pawb oedd yn byw yno.