5 A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw.
6 Roedd yn beth erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.
7 Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth sydd i'w wneud!”
8 A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –
9 nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad.
10 Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
11 Felly dyma ddynion Israel i gyd yn mynd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.