7 Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth sydd i'w wneud!”
8 A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –
9 nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad.
10 Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
11 Felly dyma ddynion Israel i gyd yn mynd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.
12 Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin, i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?
13 Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.”Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.