11 “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.
12 Yn Jabesh yn Gilead dyma nhw'n dod o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â nhw yn ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
13 Yna dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon.
14 Felly dyma ddynion Benjamin yn dod yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi eu harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd.
15 Roedd y bobl yn wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel.
16 A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi eu lladd.
17 Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel.