2 Felly dyma'r bobl yn mynd i Bethel ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD yn beichio crïo'n uchel.
3 “O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!”
4 Yna dyma'r bobl yn codi'n gynnar y bore wedyn ac yn adeiladu allor. A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
5 A dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.”
6 Roedden nhw'n wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o'r llwythau wedi ei dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw.
7 “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw.”
8 Felly dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?”A dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod.