19 Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.”“Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon. Yna dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan.
20 Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf – ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!”Pan gododd y brenin ar ei draed,
21 dyma Ehwd yn tynnu ei gleddyf allan gyda'i law chwith, a'i wthio i stumog Eglon.
22 Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan.
23 Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc trwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach.
24 Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi eu cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e yn y tŷ bach.”
25 Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth am ei fod e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd ac agor y drysau. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!