5 Byddai'n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai'r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw.
6 Dyma hi'n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel.
7 Bydda i'n arwain Sisera, cadfridog byddin y brenin Jabin, atat ti at Afon Cison. Bydd yn dod yno gyda'i gerbydau rhyfel a'i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.”
8 Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.”
9 “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di fyddi di'n cael dim o'r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.”Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh.
10 A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd.
11 Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn trwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Saänannim, heb fod yn bell o Cedesh.