7 Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,nes i ti, Debora, godi,fel mam gan amddiffyn Israel.
8 Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gaelgan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
9 Ond molwch yr ARGLWYDD!Diolch am arweinwyr Israel,a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
10 Gwrandwch bawb! –chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
11 Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD,a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!
12 Deffra! deffra! Debora.Deffra! deffra! cana gân!Ar dy draed, Barac!Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
13 A dyma'r dynion oedd ar gaelyn dod i lawr at eu harweinwyr.Daeth pobl yr ARGLWYDDi ymuno gyda mi fel rhyfelwyr.