31 Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio ei allor!”
32 Y diwrnod hwnnw dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, os gwnaeth e chwalu allor Baal.”
33 Dyma'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o'r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi'r Afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel.
34 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i'w ddilyn.
35 Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion, a dyma nhw i gyd yn dod at ei gilydd i wynebu'r gelynion.
36 Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti'n mynd i'm defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny'n wir.
37 Dw i'n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu heno. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a'r ddaear o'i gwmpas yn sych, bydda i'n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti'n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.”