5 Pan oedden nhw'n dod gyda'i hanifeiliaid a'u pebyll roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw roedd hi'n amhosib eu cyfrif nhw na'u camelod. Roedden nhw'n dod ac yn dinistrio popeth.
6 Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help.
7-8 Pan ddigwyddodd hynny dyma'r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.
9 Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi.
10 A dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”
11 Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid.
12 Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.”