4 Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Gideon eto. “Mae'r fyddin yn dal yn rhy fawr. Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd a pwy sydd ddim.”
5 Felly dyma fe'n mynd â'r dynion i lawr at y dŵr. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu'r rhai sy'n llepian y dŵr fel mae ci'n gwneud oddi wrth y rhai sy'n mynd ar eu gliniau i yfed.”
6 Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed.
7 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i'n gwneud i'r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru'r dynion eraill i gyd adre.”
8 Dyma Gideon yn casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, ac yna eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e.Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano.
9 A'r noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i'n mynd i'w rhoi yn eich dwylo chi!
10 Os wyt ti'n dal yn ofnus, dos i lawr i'r gwersyll gyda dy was Pwra,