16-17 “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? – trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!
18 Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi!
19 Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.
20 Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”
21 Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.
22 Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,
23 anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.