30 Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi ei ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog.
31 Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.
32 Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref.
33 Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.”
34 Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol.
35 Y bore wedyn roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, pan ddaeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg.
36 Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn dweud, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.”