54 Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.”Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.
55 Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw dyma nhw i gyd yn mynd adre.
56 Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu ei dad trwy ladd ei saith deg hanner brawd.
57 A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.