7 Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw,“Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem –os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.
8 Aeth y coed allan i ddewis brenin.A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd,‘Bydd yn frenin arnon ni.’
9 Ond atebodd y goeden olewydd,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew,sy'n bendithio Duw a dynion,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
10 Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys,‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
11 Ond atebodd y goeden ffigys,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys,fy ffrwyth hyfryd,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
12 Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden,‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
13 Ond atebodd y winwydden,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin,sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’