1 Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i Afon Iorddonen – yn y rhan o'r Araba sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.
2 Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.
3 Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo.
4 Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.
5 Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:
6 “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.