Deuteronomium 25 BNET

1 Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i'r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, a penderfynu pwy sy'n euog.

2 Os mai chwipio fydd y gosb, mae'r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o'i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae'n ei haeddu am beth wnaeth o'i le.

3 Ddylai'r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai'r person yn cael ei amharchu'n gyhoeddus.

4 Peidiwch rhwysto'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.

5 Os ydy dau frawd yn byw gyda'i gilydd, ac un ohonyn nhw'n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i'r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le.

6 Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel.

7 Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu ei gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a cadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’

8 Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad gydag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi,

9 dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu ei frawd i fynd!’

10 O hynny ymlaen bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel "teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal."

11 Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda'i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn,

12 rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti.

13-15 Peidiwch twyllo wrth farchnata, defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A peidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.

16 Mae'r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest – mae'r peth yn ffiaidd ganddo!

Gorchymyn i ladd yr Amaleciaid

17 “Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.

18 Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw.

19 Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd – nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw! Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34