Deuteronomium 16 BNET

Gŵyl y Pasg

1 “Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos.

2 Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis – un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr.

3 A peidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft.

4 Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf, fod wedi ei adael tan y bore wedyn.

5 “Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi.

6 Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi ei ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud – sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft.

7 Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll.

8 Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.

Gŵyl y Cynhaeaf

9 “Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd,

10 dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â peth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol.

11 Byddwch yn dathlu o'i flaen – gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.

12 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.

Gŵyl y Pebyll

13 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin.

14 Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.

15 Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi ei ddewis, am ei fod e wedi bendithio eich holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!

16 “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro.

17 Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.

Barnwyr i weinyddu Cyfiawnder

18 “Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg.

19 Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a troi pobl onest yn gelwyddog.

20 Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.

21 “Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi'n wedi ei gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw.

22 A peidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34