15 Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.
16 “Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw hefyd.
17 Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
18 “Roeddwn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.
19 “Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea.
20 Ac yno dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr.
21 Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.’