2 Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.
3 Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo.
4 Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.
5 Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:
6 “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
7 Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr.
8 Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’