23 “Roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth.
24 Dyma nhw'n mynd drosodd i'r bryniau, a cyrraedd Wadi Eshcol. Ar ôl edrych dros y wlad,
25 dyma nhw'n dod yn ôl gyda peth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’
26 “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,
27 aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD a ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid!
28 I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’
29 “Gwnes i drïo dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn!