38 Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir.
39 Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e.
40 Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’
41 “Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’“A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.
42 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dywed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’
43 “Dyma fi'n dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain.
44 Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma.