43 “Dyma fi'n dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain.
44 Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma.
45 Pan gyrhaeddoch chi yn ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD am help, ond wnaeth e gymryd dim sylw ohonoch chi.
46 Felly dyma chi'n aros yn Cadesh am amser hir iawn.