6 “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
7 Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr.
8 Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’
9 “Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – mae'n ormod o faich.
10 Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr!
11 A boed i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud!
12 Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd?