15 Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis.
16 Felly newidiwch eich agwedd, a peidio bod mor benstiff!
17 Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib.
18 Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw.
19 Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft.
20 Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.
21 Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi ei weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi.