7 Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd.
8 A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw.
9 A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.)
10 “Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando arno i eto, a penderfynu peidio'ch dinistrio chi.
11 Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’
12 “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
13 a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi.