21 Os gwnei di hynny byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth.
22 “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo,
23 byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi.
24 Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau yn mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o'r Afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir.
25 Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, ble bynnag dych chi'n mynd.
26 “Gwrandwch yn ofalus – dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith.
27 Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD.