26 “Gwrandwch yn ofalus – dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith.
27 Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD.
28 Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.
29 Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal.
30 Maen nhw yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba – wrth ymyl Gilgal sydd heb fod yn bell o dderwen More.
31 “Dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i gymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. Dyna ble byddwch chi'n byw.
32 Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi i chi heddiw.