4 Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi.
5 Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma.
6 Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear.
7 Gyda chi dw i'n siarad, am mai chi welodd yr pethau mawr yma wnaeth yr ARGLWYDD.
8 “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir
9 wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
10 Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau yr had, ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau.