10 Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, a setlo yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi, byddwch chi'n saff.
11 Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n ei orchymyn i gyd iddo – offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo.
12 “Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi (gan na chawson nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.)
13 Peidiwch cyflwyno offrymau i'w llosgi ble bynnag dych chi eisiau.
14 Gwnewch y cwbl dw i'n ei orchymyn i chi, dim ond yn y lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis.
15 “Ond cewch ladd anifeiliaid i fwyta eu cig ble bynnag dych chi eisiau – cig y gasél a'r carw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, a bydd pawb yn cael ei fwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.
16 Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed – mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.