22 Caiff pawb eu bwyta nhw – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Cewch fwyta fel petai'n gig gasél neu garw.
23 Ond peidiwch bwyta gwaed ar unrhyw gyfri! Mae'r bywyd yn y gwaed, a rhaid i chi beidio bwyta'r bywyd gyda'r cig.
24 Peidiwch a'i fwyta! Rhaid i chi ei dywallt ar lawr fel dŵr.
25 Peidiwch a'i fwyta, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi a'ch plant ar eich ôl. Byddwch yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
26 “Dim ond y pethau sanctaidd, a'r offrymau i wneud adduned, fydd raid i chi fynd â nhw i'r lle ffydd fydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis.
27 Rhaid i chi gyflwyno'r offrymau sydd i'w llosgi, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD eich Duw. Ac mae gwaed yr aberthau eraill i'w dywallt ar yr allor pan fyddwch chi'n bwyta'r cig.
28 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ei orchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi ac i'ch disgynyddion ar eich holau. Byddwch chi'n gwneud beth sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.