29 “Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r bobloedd sydd yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd, byddwch chi'n setlo i lawr yno yn eu lle nhw.
30 Pan fyddan nhw wedi cael eu dinistrio o'ch blaen chi, gwyliwch rhag i chi gael eu trapio yr un fath â nhw. Peidiwch addoli eu duwiau nhw, na ceisio darganfod sut roedden nhw'n addoli, a meddwl gwneud yr un fath â nhw.
31 Dych chi ddim i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD wrth addoli – pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau!
32 “Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth dw i'n ei orchymyn i chi – peidiwch ychwanegu dim na chymryd dim i ffwrdd!