3 Chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, llosgi polion y dduwies Ashera i lawr, a bwrw'r delwau o'u duwiau nhw i lawr.
4 “Peidiwch addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffordd maen nhw'n addoli eu duwiau.
5 Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno.
6 Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig – gwartheg, defaid a geifr.
7 Byddwch chi a'ch teuluoedd yn mynd yno i fwyta a gwledda, a dathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi a rhoi cnydau da i chi.
8 “Rhaid i chi beidio gwneud beth dŷn ni'n ei wneud yma heddiw – pawb yn gwneud beth mae nhw eisiau.
9 Dych chi ddim eto wedi cyrraedd pen y daith, a derbyn yr etifeddiaeth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.