13 rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (duwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen)
14 rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd,
15 rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu ladd, gan gynnwys yr anifeiliaid.
16 Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto.
17 Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'r hynafiaid.
18 “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.