1 “Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torri eich hunain â chyllyll neu siafio eich talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw.
2 Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
3 “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd.
4 Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,
5 hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.