19 “Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw.
20 Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.
21 Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.“Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.
22 “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.
23 Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis – deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig – gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.
24 “Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi ei ddewis yn rhy bell,
25 gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le.