2 Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
3 “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd.
4 Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,
5 hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.
6 “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.
7 Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
8 A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)