5 hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.
6 “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.
7 Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
8 A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)
9 “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw,
10 ond dim byd sydd heb esgyll a cennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.
11 “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.