13 A peidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw –
14 dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw.
15 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw.
16 “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno,
17 cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (Ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn.)
18 “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd.
19 “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD – o'r gwartheg, defaid a geifr. Peidiwch gwneud i'r ychen oedd gyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni.