2 Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi un o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau.
3 Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo.
4 “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi
5 os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
6 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.
7 “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn eich pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd.
8 Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen.