5 os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
6 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.
7 “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn eich pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd.
8 Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen.
9 Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
10 Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a peidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi.
11 Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.