1 “Peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
2 “Os ydych chi'n clywed fod dyn neu ddynes yn un o'ch trefi, yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau'r ymrwymiad
3 – gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio eu gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli'r haul, y lleuad neu'r sêr –
4 rhaid i chi ymchwilio'n fanwl i'r mater. Wedyn, os ydy e'n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel,
5 rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
6 Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog.
7 A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a pawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.