5 rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
6 Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog.
7 A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a pawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
8 “Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i'w farnu – achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad – yna ewch â'r achos i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis.
9 Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a'r un sy'n farnwr bryd hynny a byddan nhw'n penderfynu beth ydy'r ddedfryd.
10-12 A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
13 Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.